R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Gofyn i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ystâd y Goron? OAQ(4)0239(NR)W
2. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y prosiect i ddarparu ar gyfer effaith weledol? OAQ(4)0254(NR)
3. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fach? OAQ(4)0249(NR)
4. Sandy Mewies (Delyn): Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn rhoi i helpu cynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru i hyrwyddo eu cynnyrch? OAQ(4)0244(NR)
5. Gwenda Thomas (Castell-nedd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiogelwch cyrff dŵr gwneuthuredig mawr? OAQ(4)0252(NR)
6. Gwyn Price (Islwyn): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i leihau faint o fwyd a gaiff ei wastraffu? OAQ(4)0242(NR)
7. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog amlinellu canllawiau polisi cynllunio Llywodraeth Cymru mewn perthynas â MTAN2? OAQ(4)0250(NR)
8. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â phroblemau sy'n gysylltiedig â llifogydd yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0238(NR)
9. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Sut y mae'r Gweinidog yn cyflawni ei gyfrifoldeb trawsbynciol am ddatblygu cynaliadwy ar draws Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0247(NR)W
10. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant ffermio ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)0251(NR)
11. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gofyniad bod parciau solar ar raddfa fach yn darparu manteision cymunedol? OAQ(4)0241(NR)
12. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau sy'n cael eu cymryd gan Cyfoeth Naturiol Cymru i wella ansawdd yr aer? OAQ(4)0253(NR)
13. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y gerddi cymunedol sydd ar gael a'r defnydd a gaiff ei wneud ohonynt? OAQ(4)0240(NR)
14. Christine Chapman (Cwm Cynon): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu bywyd gwyllt yng Nghymru? OAQ(4)0248(NR)
15. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog ar gyfer pysgodfeydd arfordirol a morol yn nyfroedd Cymru wrth i Bolisi Pysgodfeydd Cyffredin yr UE gael ei weithredu? OAQ(4)0246(NR)W
Gofyn i'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
1. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dlodi bwyd? OAQ(4)0282(CTP)
2. Alun Ffred Jones (Arfon): Pa gamau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi i helpu plant o gartrefi difreintiedig? OAQ(4)0269(CTP)W
3. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu asesiad o berfformiad ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf? OAQ(4)0266(CTP)
4. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer mynd i'r afael â thlodi yng Ngogledd Cymru dros y 12 mis nesaf? OAQ(4)0280(CTP)
5. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo undebau credyd yng Nghymru yn 2015? OAQ(4)0267(CTP)
6. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo cydlyniant cymunedol? OAQ(4)0276(CTP)
7. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraniad y sector gwirfoddol mewn ardaloedd gwledig? OAQ(4)0279(CTP)W
8. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd tuag at ddatblygu model asedau o werth cymunedol i Gymru? OAQ(4)0270(CTP)
9. William Graham (Dwyrain De Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o fesurau i gefnogi undebau credyd? OAQ(4)0277(CTP)
10. Christine Chapman (Cwm Cynon) : Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru? OAQ(4)0278(CTP)
11. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â thlodi i helpu pobl sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig? OAQ(4)0268(CTP)
12. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i liniaru ar effeithiau diwygiadau lles ar denantiaid tai cymdeithasol yng Nghymru? OAQ(4)0274(CTP)
13. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa gyfran o'r gyllideb adrannol ar gyfer mudiadau gwirfoddol a ddyrennir yn uniongyrchol iddynt yn hytrach nag i gyrff cyfryngol megis Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru? OAQ(4)0273(CTP)W
14. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl banciau bwyd yng Nghymru? OAQ(4)0272(CTP)
15. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am brosiectau sy'n deillio o greu ardal adfywio strategol yn Aberystwyth? OAQ(4)0275(CTP)W